Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (222)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)
|
4 Cynnig i ddiddymu Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014 (30 munud) NNDM5582 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf, yn cael eu dirymu.
Dogfennau ategol:
Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr arferion gorau o ran y gyllideb (60 munud) NDM5591 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i’r arferion gorau o ran y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2014.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014
Dogfennau Atodol
|
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau orthodontig yng Nghymru (60 munud) NDM5590 David Rees (Aberafan)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2014.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014.
Dogfennau Ategol
|
7 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5593 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi sicrhau £95 miliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn y gyllideb newydd.
2. Yn croesawu bod cyllid hefyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys Premiwm Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant o dan 5 oed.
3. Yn cydnabod bod y cytundeb cyllidebol dwy flynedd yn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan ysgolion ym mlynyddoedd blaenorol y cynllun o ran sicrhau bod cyllid yn parhau.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd y ddau gynllun o ran helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol ac o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a chefndiroedd mwy breintiedig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi'r toriad mewn termau real o £56 miliwn yng nghyllideb addysg y flwyddyn hon sy'n cynnwys toriadau o £5 miliwn i'r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a £10.7 miliwn i'r cynllun prentisiaeth Recriwtiaid Newydd. 2. Yn nodi toriadau pellach o £26.4 miliwn i addysg yn y gyllideb ddrafft o'i chymharu â'r gyllideb atodol ar gyfer mis Mehefin 2014.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru
wedi mynd yn groes i ysbryd cytundebau blaenorol ar gyllidebau ac
yn gwrthod y syniad o dincera â'r gyllideb tra bod diffygion
sylfaenol yn parhau. Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad oes gwerthusiad ffurfiol o'r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gael eto. |
8 Cyfnod Pleidleisio |
9 Dadl Fer (30 munud) NDM5594 Keith Davies (Llanelli)
Adfywio Trefol 2.0 - Creu cymunedau trefol a chanol trefi cynaliadwy |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Hydref 2014